Lleoliad:
Ystafell
Bwyllgora 1, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 15
Tachwedd 2023
Amser:
09.30 -
11.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13778
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Sarah Murphy AS James Evans AS Jane Dodds AS |
Tystion: |
Clare Sim, Rheolwr Cymorth a Chyngor Aelodau, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol Colin Everett, Cadeirydd, Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Catherine Roberts (Dirprwy Glerc) Josh Hayman (Ymchwilydd) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Darren Millar AS. Dirprwyodd James Evans AS ar
ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan AS.
Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn unol
â Rheol Sefydlog 17.49.
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda gweinyddwyr Etholiadol
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol a Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch cwestiynau dilynol ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 8 Tachwedd 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn friffio dechnegol
Nododd y Pwyllgor y briffio cefndirol ychwanegol.